Siopau
lleol yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth siopa ar-lein
(www.poptotheshops.net)
Mae tref
Caldicot, yng Ngwent wedi sefydlu 'rhith stryd fawr' lle gaiff y
siopwr ymweld â phob un o'r siopau lleol drwy wefan arbennig.
Y syniad ydi cynorthwyo busnesau lleol i gystadlu yn erbyn grym
hollbresennol y cwmnïau archfarchnad mawrion. Mi fyddai syniad
tebyg yn gweithio yn Eryri ac fe allasai fod yn arbennig o ddefnyddiol
yng nghyswllt llety hunanarlwyol. Mi fuasai'n bosib gyrru manylion
y nwyddau, y bwydydd a'r gwasanaethau sydd ar gael gyda nodyn cadarnhau'r
ymweliad neu arhosiad, ac yna mi fuasai'r ymwelwyr yn gallu rhoi
archeb i'r cyflenwr fyddai'n dod â fo i'r llety erbyn dechrau'r
ymweliad.
Dechrau
eich cynllun ailgylchu eich hun
Mewn rhannau o ogledd-orllewin Lloegr mae perchnogion gwestai, bwytai
a busnesau eraill sy'n rhan o'r diwydiant arlwyo a lletygarwch, wedi
dod at ei gilydd i ddechrau cynlluniau ailgylchu. Mae'r hyn maen nhw'n
ei wneud yn amrywio o gyfrannu at gost sefydlu banc poteli, i drefnu
arbedion grwp gyda chontractwr gwastraff masnachol. Mae modd felly
arbed costau a hefyd, drwy gydweithio â phobl eraill, i lunio
cytundeb gydag arbenigwr ailgylchu gwastraff - gan y byddwch gyda'ch
gilydd yn cynhyrchu digon o wastraff i gael eich talu amdano.