Hyrwyddo twristiaeth cynaladwy yn Eryri
GWOBR TWRISTIAETH WERDD ERYRI
I
NEWYDDION
I
AMDANOM NI
I
CYSYLLTWCH A NI


Cwestiynau Cyffredin


Compostio

- y ffordd hawsaf i ailgylchu eich gwastraff!


Mae bron i draean o'ch ysbwriel yn organig ac yn addas ar gyfer compostio. Wrth ei dynnu allan o'r bin sbwriel rydych yn amddiffyn yr amgylchedd ac yn lleihau'r angen ar gyfer tirlenwi a llosgi.

Mae gwastraff cegin a gardd wedi ei gompostio yn ddewis rhatach na gwrtaith artiffisial a mawn. Ym Mhrydain yn unig mae hyd at 94% o gorsydd mawn wedi eu niweidio, gan ddinistrio cynefin llawer o blanhigion prin ac anifeiliaid. Mae coelcerthi gardd yn llygru, ac fe allant fod yn niwsans - nid oes angen llosgi os ydych yn compostio.

Sut mae'n gweithio?

1. Casglwch bob gwastraff cegin a gardd addas e.e. Croen Llysiau, Bagiau Te, plisgyn wy, Gwair, Dai, darnau bach o bapur/cardfwrdd, Croen Ffrwythau, lludw, llwch lli ayyb
Peidiwch a chynnwys cig, pysgod nac esgyrn - olew coginio a braster, gwastraff cwm a chathod, papur sglein, plastig, gwydr, metel, planhigion nad ydynt yn iach.

2. Rhowch y gwastraff yn eich bin compost

3. Rhowch damaid o hen garped ar y top i gadw'r gwres i mewn.

4. Bydd pob math o greaduriaid bach, o organebau bychain i bryfaid genwair, yn torri'r gwastraff i lawr ac yn creu cyflenwad o gompost am ddim!

I brynu bin compost gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ffoniwch y llinell Cefnogaeth Busnes, Gwasanaethau Amgylchedd 01492 575235/575236

Am fwy o wybodaeth am gompostio gan Gyngor Gwynedd ffoniwch y Linell Gymorth Gwastraff/ Ailgylchu, 01286 679872 neu e-bostiwch: recycling@gwynedd.gov.uk

 

 

Mae biniau brown ar gael mewn rhai ardaloedd ar gyfer casglu gwastraff gardd - ond os gallwch gompostio yna gwnewch hynny, gan ei fod yn lleihau costau ariannol ac amgylcheddol cludo'r gwastraff i gyfleuster compostio trefol.

 

 


twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk :: Diweddarwyd y dudalen yma ar 28-05-2007 :: ©Cymdeithas Eryri 2006