Canolfan
ymwelwyr amgylcheddol gynaladwy yn gwerthu bwyd moesegol?
Yn
Worcester Woods Country Park, sydd â 51 hectar o goedwigoedd a
dolydd ac sydd wedi ennill Baner Werdd, mae Cyngor Caerwrangon wedi
bod yn gweithio yn galed i hyrwyddo negeseuon moesol mewn nifer o wahanol
ffyrdd. Cafodd y Ganolfan Cefn Gwlad bresennol ei hadeiladu yn hwyr
yn yr 1980au ac roedd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Er hyn, roedd
arnom angen mwy na allai'r adeilad ei gynnig; roedd ein hymwelwyr angen
mwy o seddau yn y caffi a thu allan ger y lle chwarae, mwy o gysgod
yn yr haf, a mwy o le ar gyfer cyfarfodydd cymunedol. Roedd staff y
Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio mewn cabanau ers nifer o
flynyddoedd, ac roedd peryg na fyddai caniatâd yn cael ei roi
i'n galluogi i gadw'r rhain am gyfnod hirach, ac roedd prinder lle i
gadw cerbydau gwaith, coed ac offer yn ddiogel.
Roeddem
yn ddigon ffodus i sicrhau nifer o grantiau o'r Gronfa 'Liveability',
Cronfa Loteri Treftadaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd, a rhaglen ein Cyngor
Sir ein hunain i ddatblygu estyniad i'r Ganolfan Ymwelwyr. Gyda chymorth
ein tîm Gwasanaethau Eiddo, sydd erbyn hyn yn enwog dros y wlad
am ddatblygu adeiladau, gan gynnwys ysgolion, canolfan addysg amgylcheddol
a chanolfan lyfrgell a hanes, llwyddwyd i ddod o hyd i gynllun addas.
Cafodd ein hymwelwyr fod yn rhan o'r ymarfer drwy grwpiau ffocws, cardiau
sylwadau, arolwg ymwelwyr, a diwrnodau agored, felly roedd pob syniad
yn cael ei ystyried.
Ein
syniad terfynol oedd eco-adeilad wrth ochr y ganolfan ymwelwyr bresennol.
Byddai hwn yn gartref i staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, y dderbynfa,
y swyddfa ymholiadau a dwy ystafell gymuned newydd. Mae'r cynllun yn
cynnwys to bywlysiau gwyrdd, prennau cynaladwy, gwresogydd llosgi pren,
a phapur newydd wedi ei ailgylchu fel ynysydd.
Mae'r
ddau adeilad wedi eu cysylltu gan ddeildy dros deras haul. Roedd rhan
o'r cynllun hefyd yn cynnwys creu'r 'Worcestershire Garden', ardal dawel,
gaeedig ar gyfer y gymuned ac ar gyfer digwyddiadau arbennig, sydd â
nodweddion sy'n arbennig i'r ardal hon, fel coed ffrwythau, gwasg afalau
hen ffasiwn, pwll, a blodau gwyllt.
Cafodd
y Ganolfan Ymwelwyr bresenol ei ailwampio gan ychwanegu golau gwell,
mwy o lefydd i eistedd y tu mewn, a thechnoleg newydd sbon ble gellid
cyffwrdd â'r sgrin i gael gwybodaeth. Roedd y dodrefn newydd yn
arloesol iawn - doedden nhw ddim yn newydd o gwbl! Drwy'r prosiect 'Green
Chair', gofynnwyd i bobl roi eu hen gadeiriau pren, ac fe gawsant eu
hadnewyddu, ble bo'r angen, gan ein staff, a'u paentio yn wyrdd. Dyma
ein hateb i'r prinder arian ar gyfer prynu dodrefn newydd, ond roedd
neges ailgylchu bwysig yma hefyd. Cafodd rhesel daflenni a dau far brecwast
eu gwneud ar y safle o goed derwen o'r goedwig gyfagos; eto, neges arall
am adnoddau cynaladwy am bris rhad.
Yr
hyn yr oedd ei angen yn awr oedd bwyd moesegol. Mae'r caffis yng nghanolfannau
ymwelwyr ein Parciau Cefn Gwlad yn cael eu rhedeg ar sail rhyddfraint,
a phob un yn cael tenantiaeth pum mlynedd. Yn ddiweddar cawsom denant
newydd yn ein Parc Cefn Gwlad arall yn Waseley Hills, ger Birmingham,
ac o hynny cawsom brofiad defnyddiol wrth dreialu prydles â'r
pwyslais ar yr ymwelydd a chynaladwyedd.
Roedd
ein tenant yn y caffi yn Worcester Woods wedi bod gyda ni ers blynyddoedd,
ond yn teimlo ei bod hi'n amser symud ymlaen. Rhoddodd hyn y cyfle i
ni wthio ein syniad o fwyd cynaladwy yn bellach nag o'r blaen. Wrth
gwrs, mae prydles busnes arferol yn un eithaf safonol a'r prif bwrpas
yw gwneud elw. Er bod incwm y caffis yn ein canolfannau ymwelwyr yn
hanfodol i'n gwaith, eu prif bwrpas yw cynnig gwasanaeth o safon uchel
i'n ymwelwyr. Felly, mae o ddiddordeb i ni fel Cyngor Sir, ac i'r tenant,
weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gynnig hyn. Mae perthynas
dda a deall yr un gwerthoedd yn allweddol.
Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn ceisio denu math arbennig o fusnes o'r
dechrau. Rydym wedi dysgu nifer o wersi yngl?n â sut i ddod o
hyd i denant yn y gorffennol. Mae hysbysebion bychain mewn papurau newydd
neu gylchgronau arlwyo yn ddrud iawn ac nid ydynt yn denu llawer o sylw,
felly dewisom arddangos arwydd enfawr wrth ochr y ffordd, sicrhau ychydig
o sylw yn y wasg, a gosod hysbyseb hanner tudalen yn y papur lleol.
Roedd
ein nod yn un uchel, gyda'r bwriad y byddai Orchard Café yn datblygu
i fod 'y lle' yng Nghaerwrangon i ddod i fwyta bwyd moesegol. Wrth 'moesegol',
rydym yn golygu y byddwn yn cynnig bwyd Masnach Deg, wyau buarth, cig
gan anifeiliaid rhydd, bwyd lleol, a bwyd organig pan fo modd. Ychwanegom
amodau cadarn yngl?n â phecynnu a gwastraff, a rhoddwyd amod fod
rhaid i unrhyw beth sydd ar werth yn y ganolfan ymwelwyr fod yn gynaladwy,
er enghraifft, crefftau Masnach deg, neu grefftau gan bobl leol.
Roedd
yr ymateb yn bositif iawn, a rhoddwyd deuddeg tenant posibl ar y rhestr
fer. Yna, rhoddwyd y deuddeg drwy broses ddewis llym, tebycach i gyfweliad
swydd na gweithred fasnachol. Ond roedd o werth y drafferth, gan fod
gan Guy a Nett Ward brofiad helaeth yn y maes arlwyo, o goginio, i reoli
bwyty a hyfforddi staff ar gyfer cwmnïau megis Frankie and Bennies
a Prêt a Manger. Mae gan y ddau hefyd gariad at gefn gwlad a'r
rhan sydd gan gefn gwlad i'w chwarae mewn cynhyrchu bwyd iach o safon.
Yr
hyn sydd mor werthfawr am Country Parks yw'r cyfuniad o bethau sydd
i'w cynnig yno. Mae pobl wedi dod i ddisgwyl cyfleusterau arbennig pan
fyddent yn ymweld; canolfan ymwelwyr gyda chaffi, toiledau, gwybodaeth
a dehongliad, man chwarae ar gyfer plant a llwybrau wedi eu marcio -
hyn oll mewn amgylchedd naturiol a dymunol. Yr hyn sy'n cael ei gynnig
i ni yw'r gallu i drosglwyddo negeseuon pwysig a dangos enghreifftiau
o gynaladwyedd.
Gall
y Gwasanaeth Cefn Gwlad dderbyn ymweliadau gan sefydliadau eraill sydd
eisiau darganfod mwy am fentrau fel y rhai uchod, a phethau eraill megis
gweithio gyda gwirfoddolwyr, rheoli iechyd a diogelwch, datblygiad busnes,
gweithio gyda'r gymuned a sicrhau incwm. Os hoffech chi drafod pecyn
arbennig ar gyfer eich anghenion, yna cysylltwch â Rachel Datlen,
Rheolwr Cefn Gwlad Greenspace ar 01905 766493 neu rdatlen@worcestershire.go.uk
Back
to Top
Small
scale hydropower development on a farm in Snowdonia National Park (GWLAD,
Rhifyn 61, Chwefror 07, Llywodraeth Cynulliad Cymru)
MAE
rhaeadr syn byrlymu i lawr llethrau serth ym Mharc Cenedlaethol
Eryri yn drawiadol iawn, ond nid dynai hunig arwyddocâd
i Tegwyn Jones.
Tua
phum mlynedd yn ôl, penderfynodd, Tegwyn, 49 oed, syn
ffermio tri daliad â chyfanswm o 420 hectar gydai wraig
Catrin, ger
Mallwyd, Powys osod cynllun hydroelectrig i ddefnyddior ynni naturiol
hwn oedd yn cael ei wastraffu fel arall. Un or prif resymau dros
wneud
hyn heblaw am hybu incwm y fferm oedd helpu i sicrhau
ei bod yn ddigon proffidiol iw tri mab ddychwelyd i weithio ar
y fferm ar ôl cwblhauu haddysg.
Yn
wir, bur fenter mor llwyddiannus fel bod y cwpwl ar fin buddsoddi
bron i £500,000 ar gynllun tebyg rhyw hanner milltir i ffwrdd.
Cafwyd y syniad gwreiddiol mewn diwrnod agored dan ofal Andy Rowland,
or cwmni adfywio lleol, Eco Ddyfi, ond mae cysylltiad teuluol
ir
cyfan hefyd sefydlodd taid Tegwyn gynllun hydro-electrig yn y
1930au i wasanaethu pentref Dinas Mawddwy.
Maer
cynllun cyntaf, a adeiladwyd gyda chymorth grant gan Eco Dyfi, yn creu
tua £15,000 o incwm y flwyddyn, meddai Tegwyn. Maer
swm hwn yn hwb anferthol i goffraur fferm, a does dim angen llawer
o lafurio na gwaith cynnal a chadw.
Gydar
cynllun yn cynhyrchu 340,000 kwh o drydan ir grid cenedlaethol,
amcangyfrifir ei fod yn creu digon o drydan ar gyfer 60 o gartrefi.
Bydd
cam 2 y cynllun yn cynhyrchu 550,000 kwh o drydan, a dylai fod yn barod
ymhen dwy flynedd. Fei hadeiladir gyda chymorth grant Cymad, prosiect
a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad syn helpu i ddatblygu prosiectau
cymuned arloesol wediu seilio ar egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Mae
Tegwyn ai deulun magu 800 o ddefaid mynydd Cymreig ar y
tri deiliad, gan gadw 200 o wyn benyw ar y fferm bob blwyddyn
at fagu. Caiff yr wyn eu pesgi ar
y fferm au gwerthu trwy gwmni Graig Farm Organics. Mae gwartheg
Tegwyn yn cynnwys 24 o fuchod sugno Duon Cymreig a tharw Limousin, ac
maer lloeau i
gyd yn cael eu pesgi ar dir pori rhent yn Ffostrasol, Ceredigion, y
maen ei rannu âi frawd Elwyn. Roedd y ffermydd yn
rhan o gynllun Tir Cymen pan ddewiswyd Meirionnydd i fod yn ardal beilot
ym 1992, a phan ddaeth y cytundeb 10 mlynedd
hwnnw i ben, trosglwyddwyd yr holl diroedd i gynllun Tir Gofal. Fferm
organig yw hi bellach, ar ôl cychwyn ar y trosglwyddo yn 2001.
Back
to Top