Hyrwyddo twristiaeth cynaladwy yn Eryri
GWOBR TWRISTIAETH WERDD ERYRI
I
NEWYDDION
I
AMDANOM NI
I
CYSYLLTWCH A NI


Cwestiynau Cyffredin


LLEIHEWCH - AIL-DDEFNYDDIWCH - YNA AILGYLCHU!

Wrth leihau'r gwastraff yr ydych yn ei gynhyrchu ac ail-ddefnyddio eich gwastraff rydych yn lleihau'r nifer o adnoddau sy'n cael eu defnyddio i'w gynhyrchu, yn lleihau'r gwastraff sydd angen ei waredu, ac yn lleihau'r tanwydd sydd ei angen i gludo gwastraff.

Lleihewch eich gwastraff pecynnu drwy swmp-brynu pan fo'n bosib

Ail-ddefnyddiwch unrhyw becynnau/amlenni/pren ayyb.

Yna AILGYLCHU.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau ailgylchu llywodraeth leol ar gyfer busnesau yn brin.

  • Wedi i chwi wneud cais amdano, bydd Cyngor Sir Gwynedd yn darparu bin coch ar olwynion ar gyfer gwydr. Cysylltwch â Thîm Ailgylchu Cyngor Gwynedd 01286 679872.

  • Yng Nghonwy mae Trwyddedau Gwastraff Masnachol 'Dim Faniau' ar gael i alluogi busnesau bach i fynd a'u gwastraff i safleoedd ailgylchu ar gyfer cartrefi. Gall gwsmeriaid gwastraff masnachol presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wneud cais am drwydded 'Dim Faniau' am ddim, ac eraill yn talu £2.50 yr wythnos am y drwydded. Cysylltwch â Christine Rawlinson ar 01492 575330

    Mae nifer o fusnesau ailgylchu masnachol yn Eryri.

    Gwastraff Cymysg

    Willams a Williams Cyf

Y mae'r gwastraff ailgylchu yn cynnwys pridd da, brics a rwbel, cardbord, papur, metel sgrap, coed a gwastraff gwyrdd.

Yn 2002 ennillod Williams a Williams yr 'Arena Network Award' ung nghategori Gwasanaethau a Nwyddau Amgylcheddol ac ym mis Mai 2006 Gwobr Busnes Cyngor Gwynedd unwaith eto am eu cyfraniad i'r amgylchedd.

Melin Plas Du
Y Ffor
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6RF

Ffon: 01766 810223
e-bost: wmsawms@btconnect.com


Cardfwrdd

Mr H Collins

Ffon: 0795 1679324

Gwasanaethau Cardfwrdd Conwy Ltd
Uned 24
Stad Ddiwydiannol Tir Llwyd
Bae Cinmel
LL18 5JA
07841528494

Papur/Caniau/Cetris

Antur Waunfawr

Gwasanaeth ailgylchu cyffredinol ar gyfer swyddfeydd yng Ngwynedd, Ynys Môn, a Chonwy. Gellid casglu pob math o bapur, caniau a chetris. Prisiau o £200 + TAW y flwyddyn.

Gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cael gwared â dogfennau cyfrinachol. Bydd y papur yn cael ei gasglu a'i dorri yn fan cyn cael ei hel at ei gilydd i sypiau 500kg. Prisiau o £4 + TAW y bag.

Cysylltwch ag: Ailgylchu Antur Waunfawr, West Depot, Bangor,
Gwynedd, LL57 2UU
Ffon: 01248 355112

e-bost: huwd@anturwaunfawr.org

Cooking Oil

Bio-power

John Nicholson

Ffon: 01286 830312

Bio-fuels derived from recycled materials that would otherwise present a waste disposal problem i.e. cooking oils.

(Click here to find out more about bio-power companies)




Os ydych chi'n gwybod am unrhyw gwmni sy'n cynnig gwasanaeth ailgylchu yn Eryri gadewch i ni wybod amdanynt


Gallwch chi helpu atal taflu sbwriel anghyfreithlon

Mae taflu sbwriel anghyfreithlon yn broblem sylweddol sydd ar gynnydd. Y mae'n difetha golwg yr amgylchedd, ac yn bygwth iechyd dynol. Mae'n digwydd pob 35 eiliad, ac yn costio £100 y funud i'w glirio.

Gallwch chi gynorthwyo:

1. Defnuddiwch gludwyr gwastraff cofrestredig. Mynnwch weld eu trwydded Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Os oes gennych unrhyw amheuon, galwch ni ar 08708 506506 neu chwiliwch am gludwyr cofrestredig un eich ardal ar ein gwefan www.environment-agency.gov.uk

2. Esboniwch y bydd angen iddyn' nhw gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gofrestru cyn y byddwch chi'n defnyddio eu gwasanaethau nhw.

3. Cofiwch: os ceir hyd i'ch sbwriel chi wedi'i daflu'n anghyfreithlon, a bod modd ei olrhain yn ol atoch chi, chi fydd yr un a ddelir yn gyfrifol.

4. ARBEDWCH, AILDDEFNYDDIWCH, AILGYLCHWCH pob cyfle y cewch chi

 

 

 

 

 

 

 

 


twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk :: Diweddarwyd y dudalen yma ar 08-08-2008 :: ©Cymdeithas Eryri 2006