Hyrwyddo twristiaeth cynaladwy yn Eryri
GWOBR TWRISTIAETH WERDD ERYRI
I
NEWYDDION
I
AMDANOM NI
I
CYSYLLTWCH A NI


Cwestiynau Cyffredin

 

Pam dod yn fusnes cynaliadwy?


Ydych chi erioed wedi ystyried yr effaith, cadarnhaol a negyddol, y mae eich busnes yn ei gael ar y tirlun a'r amgylchedd yr ydych yn dibynnu arno?

Mae twristiaeth yn effeithio pob man y mae'n ei gyffwrdd, ac yn arbennig felly'r llefydd hynny sydd â thirwedd fregus. Drwy ymroi i ddulliau amgylchedd-gyfrifol mae busnesau, eu gwesteion ac ymwelwyr o bob math i'r ardal yn gallu lleihau effaith twristiaeth a hefyd, hyd yn oed, cyfrannu at gadwraeth y lle.

Mae gwella arfer amgylcheddol eich busnes yn gwneud synnwyr.

Gydag ychydig o waith a buddsoddi - mae llawer o grantiau ar gael - fe allwch

  • leihau eich biliau tanwydd a chost cael gwared ar wastraff
  • ddenu mwy o gwsmeriaid - mae yna ofyn cynyddol am lefydd i aros ac am weithgareddau sy'n lleihau effaith pobl ar yr amgylchedd.


    Cymrwch olwg ar Astudiaethau Achos busnesau cynaliadwy i weld sut mae busnesau lleol wedi lleihau eu costau, wedi denu mwy o fusnes ac wedi ymestyn y tymor drwy fabwysiadu a marchnata arferion cynaliadwy.

 

Cynnydd gwyrdd y DG


Mae arolwg newydd yn dangos bod Prydain ar ganol cynnydd mawr o ran cynnyrch a gwasanaethau gwyrdd.
Gwelir o'r Ethical Consumerism Report bod y farchnad yn y DG ar gyfer nwyddau gwyrdd, bellach ac am y tro cyntaf, yn fwy na gwerthiant cwrw a sigarennau. Yn ôl yr astudiaeth, roedd gwariant ar nwyddau gwyrdd yn y DG yn werth £29.3 biliwn y llynedd, cynnydd o 11% ar y ffigyrau blaenorol. Mae o hefyd yn ganran uwch o wariant cyffredinol pobl, gyda bod gwariant y cartref cyfartalog wedi codi dim ond 1.4%
.


J. Murray, 29/11/06
Green Business News

 

twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk :: Diweddarwyd y dudalen yma ar 14-02-2007 :: ©Cymdeithas Eryri 2006