Cyfle
i gyfrannu!
I wneud ychydig o waith gyda'ch dwylo!
I gael ychydig o hwyl!
Ac i roi rhywbeth yn ôl i Eryri!
Cymdeithas
Eryri
Cymdeithas Eryri ydi prif elusen gwarchod a harddu Parc Cenedlaethol
Eryri. Mae gan y Gymdeithas raglen o ddigwyddiadau gwella a gwarchod
sy'n digwydd drwy gydol y flwyddyn a Chydlynydd Gwirfoddolwyr rhan amser
i'w threfnu a'i rheoli.
Mae
llawer o waith gwirfoddol y Gymdeithas yn cael ei wneud ar y cyd â
chyrff eraill megis Awdurdod y Parc, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol,
Cadw Cymru'n Daclus a chynghorau sir Gwynedd a Chonwy.
Mae'r
Gymdeithas yn cynnig pob math o gyfleoedd i wirfoddolwyr, yn cynnwys:
- gwaith
cynnal a chadw ar lwybrau ucheldir,
- tasgau
cadwraeth megis clirio Rhododendron, rheoli coedwigaeth, cynnal arolygon
rhywogaeth,
- a
chlirio sbwriel mawr a bach
Ar
ben hynny, mae'r Gymdeithas yn cynnal dyddiau cadwraeth a garddio yng
ngerddi pum erw enwog Ty Hyll, Capel Curig, sydd hefyd yn bencadlys
y Gymdeithas.
Mae yna rhwng 30 a 35 o ddyddiau gwaith cadwraeth bob blwyddyn, felly
os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â:
Y
Cydlynydd Gwirfoddolwyr, ar (01690) 720287 neu drwy e-bost ar gwirfoddoli@cymdeithas-eryri.org.uk
Cymdeithas
Eryri
Ty Hyll
Capel Curig
Conwy
LL24 0DS