|
|
Croeso
i eryri-gwyrdd.co.uk, y safle sy'n eich cynorthwyo i ymweld â,
fforio a hyfrydu mewn amgylchedd syfrdanol ac unigryw, ac i'w adael
yn yr un cyflwr!
©SNPA
Mae pawb isio
cyfle i ymlacio, i roi ei gyfrifoldebau beunyddiol o'r naill du am ryw
hyd a chael ychydig o hwyl efo'i deulu a'i ffrindiau. Ac mae mynd i
lefydd gwahanol, a phrofi diwylliannau a thirluniau gwahanol, yn ffordd
wych o wneud hynny. Gyda'r holl bryderon ynglyn â'r gost carbon
sy'n gysylltiedig â theithio mewn awyren, mae gwyliau yn y DG
yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sy'n poeni am yr amgylchedd.
Fodd bynnag, mae ymweld â llefydd megis Eryri'n gallu bygwth yr
amgylcheddau hynny sy'n eu gwneud yn llefydd mor arbennig. Mae cynefinoedd
bregus, tirweddau glân a'r tawelwch i gyd dan fygythiad oherwydd
y nifer cynyddol o ymwelwyr a'r cyfleusterau y maent yn eu disgwyl.
Ond
peidiwch â chyffro! Gallwch wneud pethau syml i leihau effaith
eich gwyliau. Os wnaiff pawb ymdrechu fod yn fwy cynaladwy, bydd y gwylltineb
naturiol, yr harddwch a'r dreftadaeth ddiwylliannol yn parhau i swyno
a chynnal cenedlaethau i ddod.
|
|