Ymddiheurwn,
mae'r dudalen yn disgwyl ei chyfieithu.
Do
you own or manage a holiday park/caravan site?
WISE
Network have just launched an
Energy Audit specifically for you, to help you assess your business
energy use, and to identify areas where you could make immediate savings
Contact
the WISE Network Co-ordinator on 01248 383710, or email info@wisenetwork.org.
Yn
gynharach eleni rhoddodd Dr Emma Edwards-Jones, Swyddog Project
Eryri Werdd, gyfweliad ar bolisïau teithio cynaliadwy ar gyfer
y diwydiant digwyddiadau i'r cylchgrawn ar-lein 'Events Review'.
Dyma'r
newyddion diweddaraf a gafwyd ar ein teithiau. Os ydych wedi darganfod
rhywfaint o ymchwil difyr,
anfonwch
fanylion atom
ac fe'u gosodwn ar y wefan.
MAE
GWEITHREDU BUSNES MEWN DULL SY'N GYFEILLGAR I'R AMGYLCHEDD YN BWYSIG
I NAW O BOB DEG BUSNES TWRISTIAETH YNG NGHYMRU
Mae
gweithredu busnes mewn dull sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn bwysig
i naw o bob deg busnes twristiaeth yng Nghymru, gyda 59% yn credu
ei fod yn bwysig iawn a 32% yn credu ei fod yn eithaf pwysig. Hefyd,
roedd 90% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn ymarfer rhyw fath
o ailgylchu ac roedd 80% wedi rhoi dulliau ar waith i arbed ynni a
d?r.
Dyma ddarganfyddiadau'r trydydd arolwg mewn cyfres o bump a weithredir
ar ran Visit Wales gan Strategic Marketing o Gaerdydd. Yn y cyfweliadau
archwiliwyd perfformiad dros ?yl Fai ac fe'u cynhaliwyd gyda 202 o
fusnesau yn ystod 11-12 Mai.
TEITHWYR YN FODLON TALU MWY I AROS
MEWN GWESTAI GWYRDD
Dengys
ymchwil diweddar gan TripAdvisor bod dros draean o deithwyr yn barod
i dalu mwy i gael aros mewn gwesty neu leoliad ar gyfer twristiaid sy'n
gyfeillgar i'r amgylchedd.
Mewn arolwg o dros 1,000 o ddefnyddwyr ledled y byd gan y wefan archebu
teithiau dywedodd 34% y byddent yn talu mwy pe bai hynny'n golygu cefnogi
mentrau gwyrdd.
Dywedodd chwarter y byddent yn talu premiwm o 5-10% am eu harhosiad
gwyrdd gyda 12% yn fodlon mynd mor uchel â phremiwm o 10-20%.
Dywedodd bron i chwarter o'r rhai a holwyd y dylid osgoi hedfan lle
bod hynny'n bosibl.
DEFNYDDWYR
YN GOFYN I WEITHREDWYR GYNNIG GWNEUD YN IAWN AM Y DEFNYDD O GARBON
Yn
ôl ymchwil diweddar a roddwyd ar waith i nodi Wythnos Dwristiaeth
Prydain roedd bron i 90% o ddefnyddwyr yn credu bod cyfrifoldeb ar westai
a chwmnïau twristiaeth i weithredu mewn dull sy'n gwarchod yr amgylchedd.
Dangosodd arolwg o 2,000 o ddefnyddwyr y DU, a weithredwyd gan Travelodge,
bod 54% yn dymuno gwneud yn iawn am eu gollyngiadau o garbon o ganlyniad
i'w arhosiad nesaf mewn gwesty.
Byddai 70% yn teithio ar drên yn hytrach na mewn car ar wyliau
yn y wlad hon pe bai hynny'n golygu prisiau gwesty rhatach, a byddai
50% yn hoffi gweld ôl-troed CO2 cyfan eu harhosiad mewn gwesty
neu eu taith ar y dderbynneb.
Meddai Guy Parsons, prif swyddog gweithredu Travelodge: "Mae defnyddwyr
yn dechrau derbyn bod ein dewisiadau o ran hamdden yn gallu effeithio
ar yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Y newydd positif yw eu bod yn
barod i newid ffurf eu gwyliau."
Erbyn 2012, mae Travelodge yn bwriadu torri ei ôl-troed carbon
i 55,000 tunnell fetrig. Mae'n cynnal profion ar dyrbinau gwynt ar westai,
cynlluniau i leihau'r defnydd o dd?r a gwastraff ac ystafelloedd gwestai
sy'n fwy effeithiol o ran defnyddio ynni.
Am ragor o wybodaeth, ebostiwch Travelodge: Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch
Travelodge