|
Dweud
eich Dweud!
Nid
yw'r llwybr i sicrhau busnes gwyrdd bob amser yn rhwydd.
Ydych chi wedi dod ar draws anhawster wrth geisio gwireddu cynaladwyedd?
Oes gennych chi g?yn am gynaladwyedd yr hoffech ei mynegi?
Os felly, anfonwch nodyn byr atom ac fe wnawn ei bostio ar 'Dweud
eich Dweud'. Hefyd, os gallwch helpu neu os oes gennych farn am
unrhyw un o'r materion a nodir, cofiwch
adael i ni wybod.
|
| Mae'r
system raddio yn bwnc dadleuol i'r bobl hynny sy'n ceisio darparu
llety cynaliadwy i dwristiaid. Yma, mae perchennog llety gwely a brecwast
llwyddiannus yn 'dweud ei ddweud'!
'Os ydych
yn ddarparwr llety ac os ydych yn cymryd yr amgylchedd o ddifrif
gallwch ddod ar draws anawsterau pan fydd asesydd Croeso Cymru'n
galw. Wrth gwrs, os ydych wedi sicrhau bod eich llety'n ddeniadol
ac yn teimlo eich bod yn cynnig pecyn cynhwysfawr i'ch gwesteion
yna eich dymuniad yw bod y graddio yn adlewyrchu'r safon hwnnw.'
'Mae 'safonau cyffredin' y graddio'n datgan yn amlwg y dylid derbyn
goleuo sy'n ynni effeithiol ac nid ei gosbi ond mae hi'n ymddangos
nad yw ambell i asesydd wedi darllen ei ganllawiau ei hun. Yn y
misoedd diwethaf mae mwy nag un o'n darparwyr lleol wedi eu marcio
i lawr oherwydd eu goleuo a dywedwyd wrthynt nad yw bylbiau ynni
effeithiol "cystal". Yn bersonol, collasom ninnau bwyntiau
am beidio â sicrhau bod llifoleuadau ynghynn bob amser o flaen
y t? er gwaethaf ein lampau synhwyro symudiad a yrrir gan yr haul
("ddim yn ddigon llachar")! Mae bylbiau ynni effeithiol
heddiw llawn mor llachar â bylbiau hen ffasiwn sy'n llyncu
ynni ac yn wir, pwy yn yr oes oleuedig ohoni fyddai'n dymuno gweld
llifoleuadau'n llyncu ynni a pheri llygredd golau yn ein cefn gwlad
hardd?'
'Y pwnc trafod arall yw deunyddiau mewn ystafell ymolchi. Er bod
eich deunyddiau'n lân ac o ansawdd da yna nid yw hyn yn ddigon
gan yr asesydd os nad ydynt yn dod mewn poteli bach unigol gwastraffus.
Bydd hyn yn sicrhau llai o farciau. Pam? Pam nad ydynt yn deall
bod ein gwesteion, gydag ychydig o anogaeth, yn dymuno i ni ddilyn
ymarferion sy'n amgylcheddol gynaliadwy? Pan fyddwch yn defnyddio
poteli unigol mae gwesteion yn mynd â llawer ohonynt gartref
gyda hwy ac yna'n eu gadael ar silff i hel llwch. Wrth ddefnyddio
poteli mawr glân gyda falfiau sy'n arllwys y cynnwys nid yw
gwesteion yn defnyddio mwy na'r hyn sydd ei angen arnynt. Llai o
wastraff, llai o lorïau'n cludo llai o nwyddau, llai o ddeunydd
pacio i fynd i'r domen a llai o lanastr hefyd.'
'Mae pethau bychain eraill yn peri pryder yngl?n ag ymweliadau aseswyr
hefyd megis yr angen i bopeth fod yn 'newydd' a'r diffyg dealltwriaeth
bod ailddefnyddio hoff bethau personol nid yn unig yn dda i'r amgylchedd
ond yn sicrhau bod eich gwesteion yn teimlo eu bod yn gallu ymlacio
yn eu llety. '
'Mae hi'n bryd i'r holl aseswyr ddeffro i realiti ein byd fel y
mae nawr a rhoi'r gorau i gosbi'r rhai ohonom sy'n dangos cyfrifoldeb
dros yr amgylchedd wrth barhau i sicrhau profiad o ansawdd uchel
i'n gwesteion.'
|