Hyrwyddo twristiaeth cynaladwy yn Eryri
GWOBR TWRISTIAETH WERDD ERYRI
I
NEWYDDION
I
AMDANOM NI
I
CYSYLLTWCH A NI


Cwestiynau Cyffredin

 

Sut fydd mabwysiadu arferion cynaladwy'n helpu fy musnes i?

Drwy ddangos eich bod yn ymroi i arfer da amgylcheddol mi fyddwch yn gwneud eich hun yn ddeniadol i gyfran helaethach o'ch cwsmeriaid posib.

Hefyd, oni bai eich bod yn torri ar faint o garbon deuocsid yr ydych yn ei gynhyrchu mae'n debyg bydd angen talu pris newid hinsawdd drwy:

  • gostau uwch am eich cyflenwad ynni a thaliadau yswiriant,
  • colli busnes wrth i gwsmeriaid fynd at gyflenwyr amgylcheddol-gyfrifol,
  • gorfod cwrdd â rheolau a deddfwriaeth lymach fyth oddi wrth y llywodraeth.

    Mae troi peiriannau i ffwrdd ar ôl eu defnyddio, neu ostwng y gwres mewn tywydd poeth, yn arbed symiau sylweddol o arian i chi o ran eich bil ynni. Ac yn nhermau elw, mae lleihâi eich bil ynni o 20% cyfystyr â chynnydd o 5% yn eich gwerthiant. (www.carbontrust.co.uk)

Sut mae cael gafael ar gynnyrch lleol?

Mae busnesau llety ac arlwyo sy'n cynnig cynnyrch lleol yn darparu blas go iawn o'r ardal, ac felly'n gwella ansawdd profiad yr ymwelwyr o Eryri a'u barn ynglyn â'r ardal. Cofiwch hefyd bod prynu cynnyrch lleol yn cefnogi'r economi leol a bod yna lawer o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd yng Ngwynedd fydd yn gallu cyflenwi eich busnes gyda chynnyrch lleol o ansawdd uchel.

Am wybodaeth bellach ewch i dudalen newyddion www.gwyneddgynaladwy.org.uk, a chliciwch ar ddolen gyswllt Bwyd Lleol.

Rhowch gynnig hefyd ar www.bigbarn.co.uk lle gallwch gael rhestr o gyflenwyr yn eich ardal drwy ddarparu eich côd post.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk :: Diweddarwyd y dudalen yma ar 14-02-2007 :: ©Cymdeithas Eryri 2006