Hyrwyddo twristiaeth cynaladwy yn Eryri
GWOBR TWRISTIAETH WERDD ERYRI
I
NEWYDDION
I
AMDANOM NI
I
CYSYLLTWCH A NI


Cwestiynau Cyffredin

 

Prosiect Eryri Gwyrdd

Ffurfiwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 er mwyn gwarchod tirlun, nodweddion naturiol a hanesyddol, a bywyd gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Gymdeithas yn ymgyrchu dros afonydd, bywyd gwyllt, y bobl sy'n byw yn y Parc a'r rhai sy'n ymweld â hi.

Mae gan dwristiaeth, fel diwydiant, ddylanwad mawr ar amgylchedd a thirlun Eryri ac ar gynhaliaeth ei heconomi a'i chymunedau. Mae 26,000 yn byw yn y Parc Cenedlaethol ac mae twristiaeth yn cynnal yr hyn sydd gyfwerth â 9,000 o swyddi llawn amser. Amcangyfrifir ei fod yn dod â £385m i'r economi leol. Mae prosiect Cronfa Amgen Eryri (CAE) y Parc Cenedlaethol ar gyfer datblygiadau cynaliadwy a Phrosiect Eryri Gwyrdd Cymdeithas Eryri yn anelu at annog a chodi ymwybyddiaeth ynghylch arfer cynaladwy yn y diwydiant twristiaeth yn Eryri.

Drwy amlygu a gwobrwyo arfer da bydd y prosiect yn dangos nad oes angen cyfyngu ar ansawdd profiadau ymwelwyr nac ar elw busnesau twristiaeth. Yn wir mae gan dwristiaeth gynaliadwy'r potensial i gynyddu'r ddau !

 

 

 

 


twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk :: Diweddarwyd y dudalen yma ar 21-01-2008 :: ©Cymdeithas Eryri 2006