![]() | |
|---|---|
|
|
|
|
Diweddarwyd y dudalen yma ar {06/03}©Cymdeithas Eryri 2008 Elusen Cof: 253231 |
|
|
Yng ngardd Ty Hyll
© John Roberts
Twristiaeth Gynaladwy
gan Elwyn Owen
oddi ar gylchgrawn Cymdeithas Eryri, haf 2003
Gall y berthynas rhwng twristiaid a'r mannau maent yn ymweld â hwy fod yn un anesmwyth iawn ar adegau: rydym i gyd wedi gwenu ar y crysau-T gyda'r slogan 'Pam nad yw twristiaid yn anfon yr arian atom ac yn aros gartref?' Ac eto, mae twristiaeth yn weithgarwch mawr sy'n creu swyddi ac incwm i lawer o gymunedau. Yn wir, nid oeddem yn gwerthfawrogi twristiaeth nes dyfodiad Clwyf y Traed a'r Genau yn 2001.
Cafwyd trafodaeth fywiog yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghylch ffyrdd o annog ffurfiau mwy cyfrifol o dwristiaeth. Cr?wyd amrywiaeth o dermau i ddisgrifio math llai niweidiol o dwristiaid - fel twristiaid gwyrdd, ecodwristiaid a thwristiaid meddal. Mae'r termau hyn i gyd yn portreadu ffurfiau mwy cynaladwy o dwristiaeth, a ddisgrifir fel:
twristiaeth ymarferol yn economaidd ond heb ddinistrio'r adnoddau y bydd dyfodol twristiaeth yn dibynnu arnynt - yr amgylchedd ffisegol a deunydd cymdeithasol y gymuned leol.
(Swarbrooke, John, (1998) Sustainable Tourism Management CABI Publishing, Wallingford)Bydd rhai yn eich plith yn dadlau nad oes y fath beth â thwristiaeth gynaladwy - nad oes modd teithio er pleser heb gael effaith negyddol ar yr amgylchedd a'r gymuned. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn anwybyddu sylw o'r fath ac yn derbyn bod yr awydd i weld wynebau newydd a phrofi mannau newydd yn nodwedd naturiol ac iach. Felly er nad oes modd i dwristiaeth fyth fod yn gwbl gynaladwy, gellir derbyn yn eang yn awr bod modd i ni leihau ei effeithiau niweidiol a sicrhau mwy o fanteision positif. Mae sawl math o wyrdd i'w gael yng nghyd-destun twristiaeth.
Arlliwiau o Wyrdd
- Dim gwyrdd o gwbl
- ymddygiad heb ddylanwad unrhyw egwyddorion cynaladwyaeth o gwbl
- Gwyrdd golau
- meddwl am faterion gwyrdd ac yn gwneud newidiadau i ymddygiad (e.e. cadwraeth ynni)
- Gwyrdd Tywyll
- gwneud newidiadau mawr i ymddygiad (e.e. defnydd helaeth o gludiant cyhoeddus, aros mewn cyfleusterau sy'n eiddo i bobl leol, osgoi rhai mannau a chynhyrchion)
Rydym yn byw mewn byd o newid ac nid yw twristiaeth a thwristiaid yn eithriad i hynny. Mae pobl yn teithio'n ehangach ac, o ganlyniad, maent yn deithwyr mwy profiadol. Mae ganddynt fwy o ddiddordeb mewn gweithgarwch a gwyliau o ddiddordeb arbennig ac maent yn chwilio am brofiad mwy diffuant. Serch hynny, maent yn dod yn fwy ymwybodol hefyd o'u heffaith ar eu cyrchfannau.
Os yw twristiaeth am fod yn fwy cynaladwy, yna mae'n rhaid cadw at rai egwyddorion:
Mae ffurfiau mwy cynaladwy o dwristiaeth yn dechrau gyda gwaith cynllunio da. Mae angen strategaeth glir a chyson wedi'i datblygu mewn partneriaeth â'r holl gyfranddeiliaid allweddol. Rhaid rhoi sylw manwl i raddfa a chymeriad y datblygiadau twristaidd. Mae datblygu cynhyrchion cadarn yn hanfodol - gan adeiladu ar gryfderau a thraddodiadau lleol. Mae'n hanfodol cynnig safon uchel a gwerth da am arian. Mae cysylltiadau effeithiol yn bwysig - datblygu cadwyni cyflenwi lleol a rhannu'r budd yn yr economi wledig.
- Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gwerth cynhenid i'r amgylchedd a'i fod yn adnodd twristaidd pwysig hefyd, i'w warchod heb ei ddifetha.
- Mae'n rhaid derbyn twristiaeth fel gweithgarwch cyfreithlon a phwysig - ond ni ddylid edrych arno fel ateb i bob problem.
- Mae gwaith cynllunio a rheoli da yn hanfodol - ac mae'n hanfodol sicrhau cyfranogiad y gymuned mewn siapio twristiaeth
- Mae'n rhaid integreiddio twristiaeth gyda gweithgareddau economaidd a chymdeithasol eraill.
Mae dibynnu llai ar gar yn flaenoriaeth bwysig, ond mae'n bwnc dadleuol iawn ac fe gymer lawer o amser. Rydym wedi gweld gwaith arloesol iawn yn y maes hwn, fel Sherpa Eryri, Bws y Bannau a Phartneriaeth Llwybrau Gwyrdd Sir Benfro sy'n fodelau da i eraill eu hefelychu. I fentrau cludiant cynaladwy weithio, mae'n rhaid iddynt fod yn ddibynadwy, yn atyniadol, yn ddyfeisgar ac yn hwyl. Mae'n rhaid i'r defnyddiwr deimlo bod dewis go iawn ar gael.
Mae'n rhaid i dwristiaeth fod yn fwy cynhwysol - drwy ddarparu'n llawnach ar gyfer anghenion pobl anabl, grwpiau dan anfantais yn gymdeithasol a lleiafrifoedd ethnig. Ceir cyfleoedd i gysylltu twristiaeth a hamdden gyda'r agenda iechyd.
Ac felly, i gloi, ni ddylid ystyried twristiaeth gynaladwy fel rhyw chwiw dros dro neu nod amhosibl. Mae'n ymdrech ddidwyll i fynd i'r afael â'r materion go iawn ac mae'n haeddu ein cefnogaeth yn hytrach na'n beirniadaeth. Rydym yn gweld cynnydd - ond mae angen gwneud llawer mwy.