|
Datganiad
i'r Wasg - Press Release |
|
|
Dewch i ymuno â’r Chwyldro Gwyrdd! |
Come join the Green Revolution! |
|
Mae
Cymdeithas Eryri’n gwahodd busnesau twristiaeth yn Eryri i ymuno
â’r nifer cynyddol sy’n dangos bod ‘Busnes Gwyrdd yn
Fusnes Da’. Mae
tafarnau, parciau gwyliau, caffis, safleoedd addysg preswyl, mannau gwely a
brecwast a bythynnod hunanarlwyo yn newid eu gweithgareddau busnes er mwyn
bod mor wyrdd â hirddydd o haf yn Eryri! Mae’r busnesau mentrus hyn, a
wobrwywyd yn ddiweddar gyda Gwobr Twristiaeth Eryri Werdd, yn profi bod
buddsoddi mewn technoleg werdd ar y cyd ag ymarferion busnes effeithiol yn
gallu arwain at ddiwydiant twristiaeth gynaliadwy o ansawdd uchel. Meddai Emma
Edwards-Jones, Swyddog Project Eryri Werdd y Gymdeithas, “Mae enillwyr
Gwobrau Twristiaeth Eryri Werdd yn bobl ddyfeisgar sy’n edrych
tua’r dyfodol ac sy’n dangos cyfraniad y diwydiant twristiaeth i
amgylchedd, economi a chymunedau Eryri.
Er enghraifft, mae Trigonos, safle addysg preswyl a gwely a brecwast
yn Nantlle, wedi buddsoddi’n drwm mewn system fwyler sglodion coed
arloesol sydd wedi lleihau eu gollyngiadau o CO2 o 75%. Mae hyn, ar y cyd â’u
hymrwymiad i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, a’u gardd gegin fawr
sydd hefyd yn cyflenwi llysiau I’r cymuned lleol trwy siop fferm a
Marchnad Talysarn yn golygu eu bod wedi eu henwi fel y Busnes Twristiaeth
Gynaladwy Gorau, gan dderbyn hefyd y Wobr Carbon Isel. Meddai Richard Grover o Trigonos
‘Roeddem yn hynod o falch o ennill y wobr hon a byddwn yn ei defnyddio
i atgyfnerthu ein hymrwymiad i barhau â’n datblygiadau
gwyrdd.’ Roedd
cyfrannu at gymunedau lleol yn thema gref yng Ngwobrwyon Twristiaeth Eryri
Werdd eleni. Mae’r Caban,
Bryn Refail wedi cynnig lle yn rhandiroedd ei ardd cegin i bobl leol ac erbyn
hyn mae ganddynt restr aros.
Roedd y beirniaid yn falch iawn o weld bod Tafarn Bryn Tirion yn
cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol yn ogystal â dangos ymrwymiad
cryf i reoli gwastraff. Dangosodd
busnesau eraill, fel Y Goeden Eirin, Dolydd a’r Hen Stablau,
Machynlleth, bod mesurau i leihau effeithiau andwyol ar yr amgylchedd a llety
o ansawdd uchel yn gallu mynd law yn llaw. Cyflwynwyd Gwobrwyon Twristiaeth
Gynaliadwy Calonogol i Snowbikers, Dolgellau, Gwesty Crafnant, Trefriw a
Pharc Gwyliau Hafan y Môr, Pwllheli am fentrau amgylchedd sydd ganddynt
ar y gweill. Mae
Emma Edwards-Jones yn pwyso ar fusnesau twristiaeth eraill yn y rhanbarth
i leihau effaith amgylcheddol y diwydiant.
Meddai ‘Mae enillwyr ein gwobrau’n arddangos gwir
fuddion i’r amgylchedd, i gymunedau lleol, ac i broffidioldeb
busnes, beth bynnag fo ei faint neu ei gyllideb, drwy fabwysiadu dull
mwy cynaliadwy o weithredu. Mae
Project Eryri Werdd yn hwyluso rhwydwaith o fusnesau ‘gwyrdd’
sy’n tyfu yn y rhanbarth ac maent yn fwy na bodlon rhannu eu profiadau
a’u hymchwil. Am fwy
o wybodaeth gall perchnogion/rheolwyr busnesau gysylltu â mi ar
twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk
neu ewch i www.eryri-gwyrdd.co.uk’. Hoffai Cymdeithas
Eryri ddiolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad
Cymru, Croeso Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Gwynedd a’r
Ymddiriedolaeth Garbon am noddi gwobrwyon. Trefnwyd Gwobrwyon Twristiaeth Eryri
Werdd 2008 gan Gymdeithas Eryri fel rhan o’u Project Eryri Werdd,
a ariennir gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy CAE a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. |
The
Snowdonia Society is inviting tourism businesses in Snowdonia to join the
growing numbers who are showing that ‘Green Business is Good
Business’. Pubs,
holiday parks, cafes, residential education venues, B&Bs and self-catering
cottages are changing their businesses activities so that they match
the vibrant green of a summer in Snowdonia! These innovative businesses, recently
rewarded with a Green Snowdonia Tourism Award, are proving that investments
in green technology combined with efficient business practices can lead
to a sustainable, high quality tourism industry. Emma
Edwards-Jones, the Society’s Green Snowdonia Project Officer, said
‘The Green Snowdonia Tourism Award Winners are a resourceful, forward
thinking lot who demonstrate the contribution the tourism industry can make
to the environment, economy and communities of Snowdonia. For example, Trigonos, a residential,
education venue and B&B in Nantlle, has invested heavily in a state of
the art wood chip boiler system which has slashed their CO2
emissions by 75%. This, combined
with their commitment to reducing, reusing and recycling waste and their
large kitchen garden which also supplies vegetables to the local community
via a farm shop and
Talysarn Market lead to them being named Best Sustainable Tourism
Business, and also receiving the Low Carbon Award’. Richard Grover of Trigonos said
‘We were truly delighted to receive the award and will use it as
reinforcement for continuing our green developments’. Contributions
to local communities emerged as a strong theme for this years Green Snowdonia
Tourism Awards. The Caban, Bryn
Refail has offered allotment space in its kitchen garden to locals and now
has a waiting list. The Bryn
Tirion Inn impressed the judges with its involvement in community events
combined with an impressive commitment to waste management. Other businesses, such as Y Goeden
Eirin, Dolydd and Yr Hen Stablau, Machynlleth, showed how measures to reduce
environmental impacts and high quality accommodation can go hand in hand. Snowbikers, Dolgellau, Crafnant Guest
House, Trefriw and Hafan Y Mor Holiday Park, Pwllheli were presented with
‘Encouraging Sustainable Tourism Awards’ for environmental
initiatives they have in the pipeline. Emma
Edwards-Jones urges other tourism businesses in the region to take action to
reduce the environmental impact of the industry. She said ‘Our award winners
demonstrate the great benefits to the environment, to local communities, and
to the profitability of a business, regardless of its size or budget by
adopting a more sustainable approach.
The Green Snowdonia Project facilitates a growing network of
‘green minded’ businesses in the region who are happy to share
their experiences and research.
For more information business owners/managers can contact me at tourism@snowdonia-society.org.uk
or go to www.green-snowdonia.co.uk’. The Snowdonia
Society would like to thank the Snowdonia National Park Authority, Countryside
Council for |
Nodyn i Olygyddion: Am ffotograffau o Gyflwyniadau GTEW 2008, neu i drefnu cyfle i dynnu lluniau yn un o’r busnesau, cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Emma Edwards-Jones, 01690 720287 (swyddfa) / 07900 500588 (symudol). |
Note to Editors: For photos of the GSTA 2008 Presentations, or to arrange a photo opportunity at one of the businesses, please contact Emma Edwards-Jones, 01690 720287 (office) / 07900 500588 (mobile). |
Am fanylion
pellach
cysylltwch â
Emma Edwards-Jones: |
For further details
please contact
Emma Edwards-Jones: |
Cymdeithas Eryri
Sefydlwyd Cymdeithas Eryri 40 mlynedd yn ôl, a hwn yw’r prif gorff elusennol sy’n gweithio i warchod, i wellhau ac i ddathlu Parc Cenedlaethol Eryri - y tirwedd, y bywyd gwyllt, y dreftadaeth ddiwylliannol a’r cymunedau - er lles y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae dros 2600 o aelodau wedi ymrwymo i ymgymryd â’r gwaith arloesol, creadigol hwn. Crëwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951, mae’n cwmpasu dros 826 o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys amrywiaeth eang o dirwedd mwyaf trawiadol Prydain. |
The Snowdonia
Society
The Snowdonia Society, founded 40 years
ago, is the leading charity working to protect, enhance and celebrate the |
Mwy o wybodaeth am Gymdeithas Eryri
Mwy o newyddion
Os hoffech chi
dderbyn ein datganiadau'n rheolaidd, rhowch wybod!
|
More information about the
Snowdonia Society
More news
If you'd like to
receive our press releases regularly, just tell us!
|